
Diolch am alw heibio i fy ngwefan.
Nanw ydw i o Glynnogfawr. Rydw i wedi cychwyn y wefan yma am sawl rheswm:
- i ddysgu rhywfaint am wneud gwefan
- i ddod i wybod sut mae busnes bach yn gweithio
- i gefnogi eisteddfodau lleol
- i dysgu crefft newydd!
Fel cyd-ddigwyddiad enw ein cartref yw ‘Bryn Eisteddfod’ (enwyd o gan ddyn o’r enw Hywel Tudur, tua 1900). Mae fy nhad yn barddoni a rydw innau hefyd wedi ennill Tlws yr Ifanc Ysgol Brynrefail a Chadair Eisteddfod Ieuenctid Bontnewydd.

Rydw i wrth fy modd yn mynd i’r Eisteddfod Genedlaethol bob blwyddyn. Mae byd yr eisteddfodau felly yn agos iawn at ein calonnau fel teulu.
Hwyl!