CADEIRIAU EISTEDDFOD

Dyma wefan lle gewch brynu cadair i’ch eisteddfod chi.

Mae fy nghadeiriau i gyd wedi eu gwneud yn sied ein cartref gan ddefnyddio pren wedi ei ailgylchu o hen ddodrefn ac ati.

O Fôn i Went, o’r Fflint i Lŷn,
Cadeiriau o bob lliw a llun!

CADAIR EISTEDDFOD LEOL

Mae yn agos i 120 o eisteddfodau lleol yn cael eu cynnal bob blwyddyn yng Nghymru – beth am i’ch eisteddfod leol chi gael cadair gan Cadair Cymru eleni?

CADAIR EISTEDDFOD YSGOL

Mae sawl ysgol yng Nghymru’n cynnal eisteddfod bob blwyddyn. Gyda digon o rybudd gallwn sicrhau bod gan eich ysgol chi gadair gwerth ei chael i’w rhoi i’r enillydd.

CADAIR I GYSTADEUAETH ARALL

Does dim rhaid i chi fod yn eisteddfod ffurfiol i archebu cadair gen i. Hwyrach eich bod yn cynnal cystadleuaeth farddonol achlysurol ac eisiau gwobr gwerth chweil.
Cysylltwch!

gwir hardd yw’r gadair farddol

Cadeiriau syml a gonest

Ar hyn o bryd mae fy nghadeiriau yn rhai bychan a syml iawn ond wrth i mi ddysgu mwy ar y grefft o drin coed hwyrach y byddai’n mynd yn fwy mentrus!

Cadeiriau wedi eu gwneud o bren dros ben

Yn hytrach na phrynu coed mi fydda i’n gofyn i ffrindiau a theulu gadw unrhyw goed maen nhw am ei daflu i mi gael gwneud cadeiriau â phob math o bethau eraill.

Mae croeso i chi gysylltu os oes gynnoch chi bren dros ben! Mi fyswn wrth fy modd ei gael. Diolch!

CADAIR I’CH EISTEDDFOD ARBENNIG CHI

ARCHEBWCH MEWN DA BRYD

Peidiwch â’i gadael yn rhy hwyr – cysylltwch rŵan hyn!